Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr

Cofnodion y Cyfarfod yn Ystafell Briffio’r Cyfryngau yn y Senedd

ar 20 Mai 2015 @ 12:30 p.m.

 

1.      Yn y Gadair: Julie Morgan AC. Cymerodd Isaac Blake y Gadair pan wnaeth Julie adael am 1.30 pm i fynd i Gyfarfod Llawn y Cynulliad

2.      Hefyd yn bresennol: Lesley Griffiths, AC (y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi); P. McCann; Beonca; Donna O’Brien (Casnewydd); Ricky Price (Comin Kingsmoor, Sir Benfro); Isaac Blake (Romani Culture and Arts Company); David Williams (Sblot, Caerdydd); Margaret Williams (Sblot, Caerdydd); Bryn Hall (Unity Project); Bev Stephen (Addysg Sipsiwn a Theithwyr Sir Benfro); Denise Barry (Prosiect Priordy Monckton); Gill James (Canolfan Howardian, Caerdydd); Bethan Jones (Sipsiwn a Theithwyr Cymru); Sonia Dixon (Shirenewton, Caerdydd); Rhiannon Jones (Travelling Ahead); Gwenda Jones (Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol Bae Abertawe); Dr Shazia Saanan (yn dirprwyo ar ran Julia Osmond, Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru); Laura McGlynn (Dinas a Sir Abertawe); Llinos Price (Dinas a Sir Abertawe); Simon Malough (Dinas a Sir Abertawe); Ian Ephraim (Cyngor Caerdydd); Tony Melhuish (Cyngor Caerdydd); Mark Duggan (Sipsiwn a Theithwyr Cymru); Claire Stowell (ar ran Rebecca Evans AC); Anne Smyth (Swyddfa Julie Morgan AC); Robert Jones (Swyddfa Julie Morgan AC); John Davies (Llywodraeth Cymru, Dyfodol Tecach LGC); Andrew Jones, (Llywodraeth Cymru, Dyfodol Tecach LGC).

 

3.      Croesawodd Julie Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ac eglurodd mai Lesley yw’r Gweinidog Cydraddoldebau hefyd, sy’n gyfrifol am les Sipsiwn a Theithwyr.

 

4.      Anerchodd y Gweinidog y cyfarfod, gan gyfeirio at y pwyntiau canlynol:

Llety

·           Mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi ymrwymo i helpu i ddarparu llety diogel o ansawdd da ac mae cyllid grant wedi bod ar gael ar gyfer safleoedd. Mae LlC yn cydnabod yr angen i barhau â’r gwaith hwn. Roedd angen gwaith atgyweirio ar lawer o’r safleoedd a buddsoddwyd £9.2m er mwyn gwneud hyn. Mae safle yn Aberhonddu wedi cael ei ddatblygu er mwyn darparu 10 o leiniau newydd.

 

·           Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gyfraith yn awr a bydd y ddyletswydd a osodir ar awdurdodau tai lleol i ddiwallu anghenion a aseswyd (a. 103) yn dod i rym yn ddiweddarach eleni. Mae’r ddyletswydd newydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor ddefnyddio ei bwerau o dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013  (a.56) i ddarparu safleoedd ar gyfer cartrefi symudol i Sipsiwn a Theithwyr lle mae ei asesiad mwyaf diweddar o ran anghenion llety (fel y cymeradwywyd gan LlC) yn nodi bod darpariaeth safleoedd yn annigonol yn ei ardal. Mae’n ofynnol i bob cyngor siarad â chymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn ei ardal, ac ymddengys bod hyn yn gweithio. Mae ystod o ymgynghoriadau wedi cael eu cynnal ac mae llawer o bobl wedi cyfrannu atynt. Mae grantiau ar gyfer safleoedd newydd wedi mwy na dyblu. Mae LlC yn ymwybodol bod mwy i’w wneud.

·         Mae LlC wedi ymgynghori ar yr hyn y dylid ei gynnwys yn ei ganllawiau i Gynghorau ac eraill ar ddylunio a rheoli safleoedd newydd.

·         Bydd "Teithio at Iechyd Gwell" - strategaeth LlC ar gyfer gwella iechyd a chyfleusterau iechyd i Sipsiwn a Theithwyr - yn cael ei gyhoeddi cyn hir.

·         Mae cydraddoldeb yn ei phortffolio a bydd yn herio pob anghydraddoldeb. Mae grŵp ffocws yn cael ei sefydlu. Yng nghyd-destun y fenter Travelling Ahead i blant, nododd y Gweinidog achos o wahaniaethu annerbyniol a brofwyd gan Sipsi yn ei harddegau nad oedd yn gallu cael tacsi yn ôl i’w safle ar ôl iddi roi ei chyfeiriad. Anogodd y Gweinidog bob dioddefwr i roi gwybod i’r heddlu am bob achos o drosedd casineb.

 

Taliadau Dŵr Uchel ar safleoedd ALl  

 

·         Mae swyddogion Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau cyfleustodau dŵr ac mae rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud.

·          Daethpwyd i gytundeb y bydd cysylltiadau uniongyrchol, â’r rheini’n rhai tebyg i’r trefniadau a geir mewn tai confensiynol, yn cael eu darparu mewn perthynas â safleoedd newydd. Yna, bydd deiliaid lleiniau yn uniongyrchol gyfrifol am filiau i’r darparwr dŵr.

·         Mae’n ymddangos bod rhai safleoedd yn defnyddio llawer iawn o ddŵr. Nid yw’n glir a yw hyn o ganlyniad i ollyngiadau neu ddiffyg ymwybyddiaeth o faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio, ac mae hyn yn cael ei ddilyn yn agos. Ni ddylai trigolion gael eu troi allan am fethu â thalu taliadau dŵr. Mae dyletswydd ar ddarparwyr dŵr i wirio a oes gollyngiadau. Mae angen gwybodaeth am y cysylltiad rhwng defnyddio dŵr yn ofalus a chost.

Cymorth grant Gwella Addysg

·         Roedd y Gweinidog yn ymwybodol o bryder ynghylch dileu’r arfer o neilltuo arian a diffyg unrhyw grant penodol. Mae’n cydnabod pwysigrwydd cael adnoddau sy’n diwallu anghenion. Mae ei hadran, sef Llywodraeth Leol, yn gweithio’n agos ag adran Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg.

 

5.       Diolchodd Julie Morgan y Gweinidog ac agorodd y drafodaeth i bawb a oedd yn bresennol. Mae sylwadau a chyfraniadau wedi cael eu dwyn ynghyd o dan y pennawd pwnc perthnasol yn hytrach nag yn gronolegol. Arhosodd y Gweinidog ar gyfer rhan gyntaf y drafodaeth gyffredinol, ond bu’n rhaid iddi adael am 1.15 ac arhosodd ei swyddogion i ateb cwestiynau.

 

Llety

6.      Amlinellodd Sipsi, Mr X, yr anawsterau yr oedd wedi’u cael wrth sicrhau caniatâd gan Gyngor Dinas Casnewydd i fyw ar dir a brynwyd gan ei fab. Roedd yn aros ar hyn o bryd yn Rover Way a oedd yn orlawn. Dywedodd fod y driniaeth yr oedd wedi’i chael yn cyfateb i erledigaeth. Mynegodd y Gweinidog bryder mawr. Dywedodd person arall a oedd yn bresennol, a oedd yn bensaer, ei fod yn cynorthwyo ag achos Mr M a dywedodd y byddai cais cynllunio newydd yn cael ei gyflwyno cyn hir.

Cam Gweithredu: Bydd Julie yn mynd ar drywydd hynny ar ran y Grŵp Trawsbleidiol.

 

7.       Nodwyd yn ystod archwiliad annibynnol yr Arolygiaeth Gynllunio o Gynllun Datblygu Lleol Caerdydd bod y tir gyferbyn â safle Rover Way yn y parth llifogydd, ac felly’n anaddas ar gyfer safle newydd. Roedd yr Arolygydd wedi ymrwymo Cyngor Caerdydd i amserlen newydd sy’n ei gwneud yn ofynnol nodi safle newydd erbyn Gorffennaf 2016, felly mae’n bosibl na fydd gwaith yn dechrau tan 2017. Roedd pawb a oedd yn ymwneud â’r sefyllfa wedi mynegi siom â’r canlyniad hwn.

Cam Gweithredu: Byddai’r Grŵp yn adolygu’r datblygiadau yn ofalus.

 

8.      Cafwyd trafodaeth ynghylch a yw’n werth gwario arian ar safle Rover Way os mai’r bwriad yw ei ddisodli. Roedd un cyfranogwr yn meddwl nad oedd hyn yn werth chweil, ond tynnwyd sylw at y ffaith bod cyfrifoldebau gofynnol gan yr awdurdod lleol tuag at y preswylwyr, a bod angen atal dirywiad pellach i’r safle er nad yw’n gynaliadwy yn y tymor canolig i’r tymor hir.  

 

9.      Mynegwyd pryder bod Awdurdodau Lleol yn caniatáu safleoedd i ddadfeilio oherwydd nad ydynt yn cael eu cynnal a’u cadw’n ddigonol, ac yna’n defnyddio grantiau gwella/adnewyddu i gywiro’r diffyg. Roedd swyddogion yn derbyn mai camddefnydd oedd hwn, a dywedwyd eu bod yn ymwybodol ohono. Roedd mesurau wedi’u cynnwys yn y system er mwyn ei ganfod. Pwysleisiwyd pwysigrwydd ymweliadau monitro. Cafodd cwyn bod anfonebau am waith yn cael eu talu cyn i’r gwaith gael ei orffen a heb fod gwiriadau rheoli ansawdd digonol yn cael eu gwneud.

 

10.  Dywedodd swyddogion fod LlC yn ceisio sicrhau bod yr holl adeiladau o safon uchel. Roedd £9.2 miliwn wedi cael ei wario. Gofynnodd swyddogion am ffotograffau o’r gwaith a wnaed. Gellir gwario uchafswm o 10-15 y cant ar ffioedd dylunio felly mae o leiaf 85 y cant yn cael ei wario ar gostau cyfalaf. Mae cyllid ar gyfer 21 mlynedd o oes safle, felly ni ddylai fod angen i’r awdurdod lleol geisio mwy o gyllid yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am atgyweiriadau parhaus ac mae swyddogion yn ei chael yn hynod rwystredig pan fydd awdurdodau yn ceisio cyfiawnhau oedi neu ddiffyg gweithredu drwy ddweud eu bod yn aros am arian gan Lywodraeth Cymru.

 

11.  Wrth egluro’r ddyletswydd newydd o dan a. 103 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, dywedodd swyddogion fod y ddarpariaeth hon yn rhoi pŵer i’r Gweinidog mewn perthynas ag awdurdodau lleol. Cyfrifoldeb y Gweinidog yw penderfynu pa gamau y dylid eu cymryd mewn achosion pan mae’n fodlon nad yw awdurdod lleol wedi cydymffurfio â’i ddyletswydd.

 

12.  Dywedodd swyddogion y byddai canllaw i’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn cael ei gyhoeddi cyn hir. Dyma’r corff sy’n penderfynu ar y rhan fwyaf o anghydfodau sy’n ymwneud â llety. Fodd bynnag, gofynnodd cyfranogwr sut y bydd trigolion safleoedd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sydd ar gael os yw’r cyllid ar gyfer swyddogion cyswllt yn cael ei dorri, gan eu gadael heb unrhyw gymorth?

 

Dŵr

13.  Dywedwyd bod y taliadau dŵr ar safle Rover Way yn uchel iawn, a nodwyd bod yna amrywiaeth fawr o ran costau dŵr ar draws safleoedd. Dywedwyd nad swyddogaeth awdurdod lleol yw bod yn ddarparwr cyfleustodau. Mynegwyd pryder er bod taliadau dŵr yn rhan o rent llain, bod hyn yn golygu bod tenantiaethau Sipsiwn a Theithwyr yn agored i gamau meddiant pan na all ddeiliad dalu’r bil dŵr, ac felly mae mewn gwirionedd mewn ôl-ddyledion rhent. Ymyrrodd y Gweinidog ac ailadroddodd na ddylai awdurdodau lleol droi pobl allan oherwydd eu bod wedi methu â thalu biliau dŵr. Dywedodd cyfrannwr arall nad oes gan ddefnyddwyr sy’n Sipsiwn a Theithwyr a heb gyflenwadau uniongyrchol fynediad at ostyngiadau a threfniadau tariff rhatach. Nodwyd bod Severn Trent Water yn darparu cyflenwadau uniongyrchol i safleoedd awdurdodau lleol Sipsiwn a Theithwyr, felly pam nad yw Dŵr Cymru yn gwneud yr un peth? Mynegodd eiriolwr Sipsiwn a Theithwyr y farn fod hyn yn ffurf arall o wahaniaethu yn erbyn y gymuned Sipsiwn a Theithwyr.

 

14.  Tynnodd swyddogion y Gweinidog sylw at y cyfrifoldeb sydd ar ddylunwyr a darparwyr safleoedd i ystyried trefniadau cyflenwi dŵr, ac yn enwedig y materion uchod, ar bob safle yn y dyfodol. Cododd hyn yn rhinwedd gofynion canllawiau dylunio safleoedd LlC. Dylai hyn arwain at osod mesuryddion dŵr unigol ar safleoedd newydd. Mewn perthynas â safleoedd presennol, roedd ymchwiliadau wedi dangos nad dim ond problem ffisegol o ran pibellau annigonol oedd yn bodoli, ond yn hytrach roedd rhwystr deddfwriaethol. Teimlwyd mai’r ffordd orau ymlaen mewn perthynas â safleoedd presennol yw rhaglen i helpu’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr leihau eu defnydd o ddŵr drwy ddefnydd gofalus, a hefyd sicrhau bod darparwyr dŵr yn gwirio am ollyngiadau yn brydlon, ac unwaith iddynt ganfod problemau, eu bod yn eu hatgyweirio’n gyflym. Dywedwyd y bydd profion am ollyngiadau dŵr yn cael eu cynnal yn Rover Way yr wythnos nesaf.

 

15.  Mynegwyd rhywfaint o bryder bod un cwmni yn ôl y sôn wedi mynegi anfodlonrwydd o ran anfon staff i safleoedd Sipsiwn a Theithwyr i ddarllen mesuryddion, felly bu’n rhaid symud mesuryddion i flaen y safle. Fodd bynnag, rhoddwyd sicrwydd i’r cyfarfod nad oedd hyn yn broblem yng Nghymru.

Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

16.  Nodwyd bod diswyddiadau wedi’u hoedi mewn rhai achosion drwy ymestyn contractau am 6 mis, ond roedd swyddi’n parhau i fod o dan fygythiad.

 

17.  Gwnaed sylw o ran os yw awdurdodau lleol yn dirprwyo arian i ysgolion, mae anfodlonrwydd yn aml, h.y. pam mae plant Sipsiwn a Theithwyr yn cael cymorth ychwanegol?  At hynny, os bydd yr arian yn mynd i’r ysgolion, mae’n bosibl na chaiff ei wario ar gefnogi plant Sipsiwn a Theithwyr. Nodwyd hefyd, os yw arian yn mynd i’r ysgolion, sut y gellir monitro plant sy’n symud o gwmpas?

 

18.  Nodwyd bod Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu cydnabod fel grŵp ar wahân o dan "Teithio at Ddyfodol Gwell". Roedd cyrhaeddiad yr un mor bwysig â phresenoldeb er eu bod yn amlwg yn gysylltiedig. (Dadgyfuno presenoldeb a chyrhaeddiad).

 

19.  Cafwyd trafodaeth ar Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb. Roedd y sefyllfa yn amrywio. Pan fydd yn cael ei gynnal yn ofalus ac yn ddidwyll, gall Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb dynnu sylw at angen arbennig - roedd un cyfranogwr yn dymuno llongyfarch ei chonsortiwm am wneud hynny, a arweiniodd at wneud cronfa o arian ar gael iddi ei defnyddio. Dywedwyd bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn fodel rôl da.

 

20.  Adroddwyd bod Cyfarwyddwr Addysg Penfro, fel rhan o arbedion effeithlonrwydd, wedi cyflwyno grant cyfunedig unigol a oedd yn cynnwys cymorth penodol ar gyfer plant Sipsiwn a Theithwyr, a hynny heb fod unrhyw arian wedi’i neilltuo. Sicrhaodd y swyddogion y cyfarfod eu bod yn ymwybodol iawn o’r ffaith bod canlyniadau yn waeth ar gyfer cymunedau Sipsiwn a Theithwyr a’u bod yn cysylltu â’u cydweithwyr ym maes Addysg.

Cam Gweithredu: Cytunwyd y dylai’r Grŵp wahodd Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg, i’r cyfarfod nesaf ym mis Gorffennaf neu oddeutu’r adeg honno.  

Cronfa Gymdeithasol Ewrop

21.  Gofynnodd y cyfranogwyr beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei chynnwys yn y cyfle i gael cyllid o Gronfa Gymdeithasol Ewrop i gynorthwyo â hyfforddiant a chyflogaeth, i helpu Sipsiwn a Theithwyr ifanc i ddod yn barod i weithio. Sicrhaodd y swyddogion y cyfarfod bod Llywodraeth Cymru am i’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, a’r gymuned Roma hefyd, fod yn rhan o hyn. Roedd cyfarfodydd wedi cael eu cynnal i amlinellu’r broses. Dylai Cronfa Gymdeithasol Ewrop gael ei defnyddio ar gyfer cynhwysiad cymdeithasol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu’n ddiweddar at sefydliadau yn gofyn am y cynnydd o ran llunio cynlluniau a chynigion, ond nid oedd swyddogion yn hyderus bod y neges yn cyrraedd y gymuned Sipsiwn a Theithwyr.

 

22.  Tynnwyd sylw at y ffaith ei bod yn anodd i sefydliadau bach weithredu am gyfnod hir heb iddynt gael eu talu.

 

23.  Dywedodd cyfranogwyr o Sir Benfro eu bod yn brysur iawn, ond nad oedd digon o adnoddau ganddynt i wneud gwaith allgymorth. Mae dau swyddog cyswllt ganddynt ac maent yn ceisio mwy o arian. Mae’r gymuned wedi mynegi eu cefnogaeth iddyn nhw a’u gwaith. Ymatebodd y swyddogion drwy ddweud ei bod bellach yn anodd iawn i ariannu popeth.

 

24.  Dywedodd cyfranogwr nad yw rhai awdurdodau lleol wedi ymrwymo i reoli eu safleoedd neu gael digon o staff i ddelio â’r safleoedd. Mae staff wedi eu colli yn Wrecsam, Powys a Gwynedd ac mae’r arbedion wedi mynd tuag at arbedion effeithlonrwydd.

 

25.  Dywedwyd bod angen mesurau llym er mwyn ymdrin â rhai awdurdodau lleol. Roedd angen data meintiol. Efallai y gallai grŵp Sipsiwn a Theithwyr Cymru arwain ar hyn?

 

26.  Nododd swyddogion y ffaith nad Cronfa Gymdeithasol Ewrop yw’r unig Gronfa Ewropeaidd sydd ar gael, a bod hynny beth bynnag yn cymryd amser hir. Mae cronfeydd eraill hefyd ar gael, a bydd gwybodaeth yn cael ei hanfon allan. At hynny mae ymgynghoriad bellach yn cael ei gynnal ynghylch y rownd nesaf o grantiau cydraddoldeb a chynhwysiant ac roedd angen cyfrannu barn at hyn.

Grŵp Trawsbleidiol - cynllunio a datblygu yn y dyfodol

27.  Yn y gorffennol, roedd y posibilrwydd o sefydlu grŵp llywio i lywio gwaith y Grŵp Trawsbleidiol wedi cael ei drafod.

Cam Gweithredu: Cytunodd y cyfarfod ei fod am i Grŵp Llywio gael ei sefydlu. Bydd swyddfa Julie yn mynd ar drywydd hyn fel mater o flaenoriaeth.

 

28.  Trafododd y cyfarfod y posibilrwydd o wahanol leoliadau gan fod rhai wedi gorfod teithio’n bell, ac nid yw rhai ardaloedd yn cael eu cynrychioli o gwbl yn y cyfarfod. Fodd bynnag, roedd pryder y byddai symud y grŵp i leoliad gwahanol yn ei gwneud yn llawer mwy anodd i gael y Gweinidogion i ddod. (Nodyn y Cadeirydd: rydym yn bwriadu trefnu cyfarfod o’r Grŵp ym Mhenfro cyn y Nadolig).

 

29.  Roedd y Grŵp yn siomedig gyda’r niferoedd a oedd yn bresennol o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Beirniadwyd yr agenda amwys. Roedd angen lledaenu’r gair, gyda pherson cyswllt ar bob safle yn gyfrifol am sicrhau bod dyddiad ac amser cyfarfodydd yn cael eu hysbysebu’n eang. Dylid gwneud defnydd mawr o e-bost, ac yn enwedig negeseuon testun. Dylai cofnodion gael eu hanfon allan cyn gynted â phosibl ar ôl cyfarfodydd. Dylai cyfarfodydd gael eu trefnu ymhellach o flaen llaw.

Cam Gweithredu: Sefydlu rhwydwaith o gysylltiadau ar draws safleoedd ledled Cymru. Anfon Cofnodion drwy e-bost ar yr un pryd ag y maen nhw’n cael eu postio ar wefan y Cynulliad. Llunio agenda manwl i ennyn y diddordeb mwyaf. Trefnu’r cyfarfodydd rhwng nawr a diwedd y Cynulliad ym mis Mai 2016.

 

30.  Tynnwyd sylw at y ffaith nad oes unrhyw arian o’r Cynulliad ar gael at ddefnydd Grwpiau Trawsbleidiol.